BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Defnyddio marc UKCA – dysgu a ydych chi angen ei ddefnyddio a sut i’w ddefnyddio

Mae’r marc UKCA (Marc Asesiad Cydymffurfiaeth y DU) yn farc cynnyrch DU newydd a ddefnyddir ar gyfer nwyddau sy’n cael eu gosod ar y farchnad yn Ynysoedd Prydain (Cymru, Lloegr a’r Alban). Mae’n cwmpasu’r rhan fwyaf o nwyddau yr oedd angen rhoi marc y CE arnynt, a elwir yn nwyddau ‘dulliau newydd’.

Daeth marc UKCA i rym ar 1 Ionawr 2021. Fodd bynnag, er mwyn rhoi amser i fusnesau addasu i’r gofynion newydd, byddwch yn gallu defnyddio’r marc CE hyd 1 Ionawr 2022 yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae Llywodraeth y DU wedi paratoi canllawiau sy’n egluro sut i ddefnyddio’r marc UKCA. Am ragor o wybodaeth am roi’r nwyddau hyn ar y farchnad, gweler y canllawiau ar roi nwyddau a weithgynhyrchir ar y farchnad yn Ynysoedd Prydain.

Ni ellir defnyddio’r marc UKCA ar ei ben ei hun ar gyfer nwyddau a roddir ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Gweler y canllawiau ar roi nwyddau ar farchnad Gogledd Iwerddon.

Gwerthu nwyddau yn yr UE
Nid yw’r marc UKCA yn cael ei gydnabod ym marchnad yr UE. Mae angen marc y CE ar gynhyrchion i’w gwerthu yn yr UE. Gwybodaeth am sut i ddefnyddio marc y CE.

Bydd BEIS yn cynnal gweminar ddydd Iau 24 Mehefin 2021 am 2pm i ganolbwyntio ar nwyddau Dulliau Newydd, a gwmpaswyd yn flaenorol gan marc CE. Cofrestrwch drwy fynd i wefan Eventbrite.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.