BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digital security by design: datblygu ecosystem meddalwedd

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £8 miliwn ar gyfer prosiectau i weithio ar ddatblygu ecosystem meddalwedd digital security by design (DSbD).

Daw’r cyllid hwn o’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol.

Nod y gystadleuaeth hon yw cyllido prosiectau amrywiol sy’n gweithio i gyfoethogi ac ehangu’r ecosystem meddalwedd DSbD cyn i’r caledwedd masnachol fod ar gael. Bydd prosiectau’n defnyddio Prototeip Caledwedd Technoleg DSbD (y “Morello Board” fel y’i gelwir hefyd) i weithio ar faes ffocws o fewn pentwr meddalwedd dethol a phenodol neu ar System Weithredu neu gadwyn adnodau datblygwyr a ddefnyddir gan system ddigidol.

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 11am ar 8 Rhagfyr 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Competition overview - ISCF digital security by design - software ecosystem development - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.