Mae’n bleser gan y rhaglen Cymru Iach ar Waith (HWW), a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gyhoeddi eu rhith ddigwyddiad canmoliaeth Covid-19 i'w gynnal ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021. Bydd y digwyddiad yn dathlu cyflogwyr ar draws Cymru, sydd wedi arddangos arloesedd, creadigrwydd ac ymroddiad i lesiant eu staff mewn ymateb i'r pandemig COVID-19.
Bydd y digwyddiad yn lle ble gall busnesau ddysgu gan ei gilydd ac arddangos eu cyflawniadau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae chwe chategori i ymgeisio amdanynt:
- Menter Iechyd Meddwl Gorau
- Menter Llesiant Corfforol Gorau
- Ymateb Gorau Cwmni i Covid-19
- Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – cefnogi'r gymuned neu gwsmeriaid/defnyddwyr gwasanaeth
- Cynaliadwyedd - Cymeradwyaeth Gweledydd ar gyfer Cynaliadwyedd
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae’r porth ymgeisio wedi agor i dderbyn ceisiadau ysgrifenedig neu fideo.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: Dydd Gwener 15 Hydref 2021.
Cyflwynwch eich cais nawr: https://bit.ly/3CjSKpi
Gall unrhyw fusnes yng Nghymru gofrestru i fynychu'r rhith ddigwyddiad, a gynhelir o 10:00am ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr i ddathlu llwyddiannau sefydliadau, dysgu o’u harferion arloesol a dulliau unigryw i ddelio â’r heriau a achoswyd gan Covid-19 ac i rwydweithio gyda chwmnïau eraill o bob rhan o Gymru.
Cofrestrwch i fynychu nawr: https://bit.ly/3CjSKpi