BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Dathlu WRAP Cymru: Gronfa Economi Gylchol a Phrosiectau Cadwyn Gyflenwi Cynnwys Eilgylch

Ymunwch â ni i ddathlu llwyddiant y Gronfa Economi Gylchol a Phrosiectau Cadwyn Gyflenwi Cynnwys Eilgylch yng Nghymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous a phwysig o ran rhoi hwb i hyder prynwyr/cyflenwyr i ddefnyddio cynnyrch eilgylch a gwneud yr economi gylchol yng Nghymru yn realiti.

Byddwn yn dangos sut rydym, drwy gydweithio, wedi cynorthwyo gwneuthurwyr i oresgyn heriau er mwyn defnyddio mwy o ddeunyddiau eilgylch – yn enwedig plastig – mewn nwyddau a gynhyrchir yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn dangos sut mae’r Gronfa Economi Gylchol wedi helpu i gyflymu’r newid yng Nghymru i ddefnyddio mwy ar gynhyrchion sy’n cynnwys deunydd eilgylch ac ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau, gan hwyluso twf busnes a chreu swyddi newydd ar yr un pryd.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed gan arbenigwyr yn y diwydiant a fydd yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan gynhyrchwyr a’r datrysiadau i’r heriau hynny. Bydd cyfle i holi cwestiynau pwysig a chlywed am y cymorth sydd ar gael i’ch busnes yn y flwyddyn i ddod.

Ymunwch â ni am 2pm – 4pm ddydd Llun 14eg Mawrth 2022. Digwyddiad ar-lein am ddim yw hwn.

Ewch i Eventbrite i archebu eich lle.



 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.