BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Demystifying AI: Chatbots and Large Language Models

AI and chatbot

A yw’ch busnes yn barod ar gyfer grym AI? A yw’r holl sôn am ddeallusrwydd artiffisial yn eich drysu’n llwyr?  Neu a ydych chi’n gweld y manteision i’ch cwmni ond ddim yn gwybod ble i ddechrau?

Dewch i ddigwyddiad Demystifying AI: Chatbots and Large Language Models (LLMs)', a byddwch yn:

  • Dysgu am alluoedd sylfaenol y Sgwrsfotiau a’r Modelau Iaith Mawr diweddaraf, sut maen nhw'n gweithio, a'u heffaith bosibl ar gyfer busnesau.
  • Deall beth yw’r gwahaniaethau rhwng modelau iaith mawr caeedig (fel ChatGPT) a rhai agored, yn ogystal â dysgu am eu manteision a’u hanfanteision.
  • Trafod y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n ymwneud â Sgwrsfotiau a Modelau Iaith Mawr.
  • Clywed am lwyddiant busnesau eraill, a hynny o amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau, a dysgu am yr holl ffyrdd gwahanol y gellir defnyddio Modelau Iaith Mawr a Sgwrsfotiau.

Bydd y digwyddiad rhad-ac-am-ddim hwn yn cael ei gynnal yn Sbarc, Caerdydd CF24 4HQ ar 22 Hydref 2024. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle:  Demystifying AI: Chatbots and Large Language Models yn Sbarc


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.