BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelwch dros dro i fwy o ymgeiswyr ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Bydd hawliau dinasyddion yr AEE ac aelodau eu teuluoedd sy’n gwneud cais yn hwyr am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn cael eu diogelu wrth i’r Swyddfa Gartref ddal ati i gefnogi’r rhai sydd am aros yn y DU.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi trefniadau cynhwysfawr ar waith i alluogi’r rhai sydd â seiliau rhesymol dros beidio â chyflwyno cais i’r Cynllun cyn y dyddiad cau.

Mae Llywodraeth y DU wedi hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n mynd ati i roi’r dull hael hwn ar waith er mwyn rhoi rhagor o eglurder i ddinasyddion yr UE. Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Yn y cyfamser, cynghorir cyflogwyr a landlordiaid i gysylltu â’r Gwasanaethau Gwirio Cyflogwyr a Landlordiaid i holi a oes ganddynt ddarpar weithiwr neu denant sydd wedi cadarnhau ei fod wedi gwneud cais hwyr am y Cynllun.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.