BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad ar newidiadau hunanynysu yng Nghymru

Mae grŵp Cyngor, Canllawiau ac Arbenigedd Iechyd y Cyhoedd (PHAGE), Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyflwyno tystiolaeth i'r pedwar Prif Swyddog Meddygol ynghylch hyd y cyfnod hunanynysu ar gyfer achosion o COVID-19 a'r potensial i leihau'r cyfnod hwnnw drwy ailadrodd profion dyfeisiau llif unffordd (LFD). 

Cynghorwyd bod cyfnod o 7 diwrnod o hunanynysu ynghyd â dau brawf llif unffordd negatif yn cael fwy neu lai yr un effaith amddiffynnol i bobl â COVID-19 â chyfnod o 10 diwrnod o hunanynysu heb brawf llif unffordd. Mae’r dull newydd yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf am ba mor hir y mae achosion o COVID-19 yn trosglwyddo’r feirws i eraill. Mae hefyd yn ffordd o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chadwyni cyflenwi dros y gaeaf gan gyfyngu ar ledaeniad y feirws. 

O 31 Rhagfyr, os yw person yn hunanynysu fel achos positif ar hyn o bryd neu os yw person yn profi'n bositif am COVID-19, mae’n rhaid iddynt hunanynysu am saith diwrnod.  Ar ddiwrnod chwech o hunanynysu dylent gymryd prawf llif unffordd a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach. 

Fodd bynnag, os yw'r naill brawf neu'r llall  a gymerir ar ddiwrnod chwech neu ddiwrnod saith yn bositif dylai’r person barhau i hunanynysu hyd nes y cânt ddau brawf llif unffordd negatif neu tan ddiwrnod 10 -  pa un bynnag sydd gyntaf.  Mae canlyniad positif ar ddiwrnod chwech neu ddiwrnod saith yn dangos bod y person yn debygol o fod yn heintus o hyd ac felly mewn perygl o drosglwyddo coronafeirws i eraill.  

Mae'n hanfodol bod pawb yn hunanynysu ac yn defnyddio profion llif unffordd yn y ffordd a gynghorwyd i sicrhau eu bod yn amddiffyn eraill rhag y risg o gael eu heintio.

Gallwch gael profion llif unffordd drwy:

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru ac Hunanynysu | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.