BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad Treth Trafodiadau Tir Llywodraeth Cymru

Ceir gwahanol gyfraddau a bandiau trethi ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Gweinidogion Cymru sy'n pennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (TTT). Maent yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Mae faint o TTT rydych chi'n ei thalu yn dibynnu ar:

  • pryd wnaethoch chi brynu'r eiddo
  • p'un ai ei fod yn eiddo preswyl neu beidio
  • faint wnaethoch chi dalu amdano

Fel arfer y ‘dyddiad dod i rym’ yw’r diwrnod y gwnaethoch gwblhau pryniant yr eiddo.

Gallwch ddefnyddio y cyfrifiannell dreth i'ch helpu chi i ddarganfod faint o dreth y byddwch chi'n ei thalu.

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.