Newyddion

Diwrnod Ailgylchu Byd-eang 2025

Recycling logo and plastic bottles, cardboard

Cynhelir y Diwrnod Ailgylchu Byd-eang ar 18 Mawrth 2025.

Mae'n cydnabod y bobl, y lleoedd a'r gweithgareddau sy'n dangos sut mae'r Seithfed Adnodd ac ailgylchu yn cyfrannu at blaned amgylcheddol sefydlog a dyfodol gwyrddach i bawb.

Gallwch gymryd rhan yn y diwrnod arbennig hwn trwy drefnu'ch digwyddiadau eich hun, gan helpu i hyrwyddo’r Diwrnod Ailgylchu Byd-eang trwy rannu gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: About - Global Recycling Day

Mae ailgylchu yn y gweithle wedi newid, mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Mae hefyd yn gymwys i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.