BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 10 Hydref 2021

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn dathlu ymwybyddiaeth i'r gymuned fyd-eang mewn ffordd empathig, gyda llais sy'n uno, gan helpu unigolion i deimlo'n obeithiol trwy eu grymuso i weithredu ac i greu newid parhaol.

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, unrhyw ddiwrnod o'r flwyddyn, ond mae 10 Hydref yn ddiwrnod gwych i ddangos eich cefnogaeth i well iechyd meddwl a dechrau gofalu am eich lles eich hun.

Mae gan Sefydliad Iechyd Meddwl gyngor iechyd meddwl ar gyfer coronafeirws. Gallwch ddarganfod mwy trwy ymweld â'r hyb  mentalhealth.org.uk/coronavirus

Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ewch i wefan Mind.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.