Yn galw ar bob Menter Gymdeithasol! Dyma'r diwrnod lle gallwch helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fenter gymdeithasol a sut mae eich busnes yn gwneud gwahaniaeth yma yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau dathlu'r gwaith gwych y mae ein mentrau cymdeithasol yn ei wneud o fewn eu cymunedau ledled Cymru yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.
Er eich sylw mi fydd y digwyddiad isod yn cymryd lle ddydd Mercher 15 Tachwedd, 12pm tan 1pm. Mi fydd yn gyfle i gysylltu â mentrau cymdeithasol a dathlu o flaen llaw Diwrnod Menter Gymdeithasol
Social Business Wales Network - Global Entrepreneurship Week Tickets, Wed 15 Nov 2023 at 12:00 | Eventbrite
Mae adroddiad mapio diweddar sy'n cynnwys y prif ganfyddiadau o'r sector menter gymdeithasol wedi canfod bod 2828 menter gymdeithasol bellach yng Nghymru sy'n cyflogi oddeutu 65,000 o bobl gyda gwerth o £4.8 biliwn.
Mae mentrau cymdeithasol bellach yn cynrychioli 2.6% o gyfanswm y stoc busnes yng Nghymru. Dewiswch y ddolen ganlynol i weld yr adroddiad llawn Mapio’r Sector Busnes Cymdeithasol yng Nghymru | Cyfrifiad 2022 - Cwmpas
Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu menter gymdeithasol neu hoffech wybod mwy, cysylltwch â Cwmpas i drafod eich ymholiad Cwmpas Home Cymraeg - Cwmpas neu ewch i dudalen Busnes Cymdeithasol Cymru ar wefan Busnes Cymru sy'n cynnig llawer o wybodaeth werthfawr am sefydlu a rhedeg menter gymdeithasol Busnes Cymdeithasol Cymru (gov.wales)