BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth bob blwyddyn. Mae’n ddiwrnod byd-eang o ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

Mae’r diwrnod yn nodi galwad i weithredu hefyd i gyflymu’r broses o sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Thema IWD 2022 yw #BreakTheBias

Dychmygwch fyd lle mae cydraddoldeb rhywiol.

Byd heb ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu.

Byd sy’n amrywiol, yn gyfartal a chynhwysol.

Byd lle mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu a’i werthfawrogi.

Gyda’n gilydd gallwn sicrhau cydraddoldeb i fenywod.
Gyda’n gilydd gallwn #BreakTheBias.

Yn unigol, rydym i gyd yn gyfrifol am ein syniadau a’n gweithredoedd ein hunain - trwy’r dydd, bob dydd.

Gallwn chwalu’r rhagfarn yn ein cymunedau.

Gallwn chwalu’r rhagfarn yn ein gweithleoedd.

Gallwn chwalu’r rhagfarn yn ein hysgolion, ein colegau a’n prifysgolion.

Gyda’n gilydd, gallwn chwalu’r rhagfarn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod a thu hunt.

Gallwch gael cymorth ac arweiniad ar sut i gynllunio a gweithgarwch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 a sut i gefnogi thema’r ymgyrch #BreakTheBias.

Gofalwch eich bod wedi cofrestru yng Nghymuned Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: Cofrestru i gael cyfrif Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (internationalwomensday.com) i gael defnyddio Adnodau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.