BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022: Menywod yn Arloesi

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) yn ddiwrnod byd-eang i ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

Eleni, mae Innovate UK ac Innovate UK KTN yn dwyn ynghyd cwmnïau ac unigolion anhygoel i gymeradwyo cyflawniadau menywod sy’n arloesi a sbarduno sgyrsiau grymus. 

Bydd eu cynhadledd ar-lein undydd am ddim yn llawn trafodaethau panel i ysgogi meddwl, siaradwyr ysbrydoledig a syniadau arloesol.

Nod y digwyddiad blynyddol hwn yw ysbrydoli menywod sy’n arloeswyr newydd, tynnu sylw at fodelau rôl benywaidd sy’n gweithio yn y DU ac sy’n ysbrydoliaeth, a dod â chyfeillion ynghyd, yn ogystal â chryfhau’r DU fel arweinydd byd o ran arloesi a chynhwysiant rhywedd.

Cynhelir y digwyddiad ar 8 Mawrth 2022 rhwng 9:30am a 3pm.

Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i  International Women's Day 2022: Women Innovate - KTN (ktn-uk.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.