Bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) yn ei gwneud yn haws i gartrefi ailgylchu cordiau, dyfeisiau a nwyddau gwyn trydanol o dan gynlluniau newydd a gyhoeddwyd ar gyfer y DU yn gyffredinol.
Er mwyn grymuso’r newid i economi gylchol, bydd cynigion llywodraeth y DU yn newid y ffordd yr ydym yn cael gwared ar gyfarpar trydanol, boed yn fawr neu’n fach, gan sicrhau y gall manwerthwyr droi hen nwyddau yn nwyddau newydd.
Cynigir ystod o fesurau yn yr ymgynghoriad ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, i’w cyflwyno o 2026 ymlaen, gan gynnwys:
- Casglu cyfarpar trydanol gwastraff yn uniongyrchol o gartrefi ledled y DU – gan arbed y cyhoedd rhag gorfod teithio i fannau gwaredu cyfarpar trydanol. Bydd casgliadau’n cael eu hariannu gan gynhyrchwyr eitemau trydanol, yn hytrach na threthdalwyr, ac ni fydd angen unrhyw finiau sbwriel ychwanegol o reidrwydd.
- Manwerthwyr mawr yn cyflwyno mannau casglu ar gyfer eitemau trydanol yn eu siopau, am ddim, heb fod angen prynu cynnyrch newydd.
- Manwerthwyr a gwerthwyr ar-lein yn cymryd cyfrifoldeb dros gasglu eitemau trydanol mawr nad oes eu heisiau neu sydd wedi torri, fel oergelloedd neu ffyrnau, wrth ddosbarthu rhai newydd.
I’r perwyl hwnnw, mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad, a ddaw i ben am 11:45pm ar 7 Mawrth 2024, ar y gwelliannau arfaethedig i’r cynllun cyfarpar trydanol gwastraff a ariennir gan y diwydiant.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol: