BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Miwsig Cymru 2024

Sŵn Festival

Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 9 Chwefror 2024.

P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.

Os bydd dy fusnes yn dathlu o'r gweithle neu o gartref, mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan.

Sut gall dy fusnes gymryd rhan yn Dydd Miwsig Cymru?

  • Gwna addewid i chwarae miwsig Cymraeg yn y swyddfa, mewn canghennau, yn y siop neu'r caffi ar y diwrnod neu drwy gydol y flwyddyn.
  • Cynhalia gig gydag artist Gymraeg yn eich lle busnes.
  • Newidia lun proffil / baner dy gyfryngau cymdeithasol i frand Dydd Miwsig.

Paid aros tan Dydd Miwsig Cymru i rannu dy hoffter o fiwsig Cymraeg, i ddarganfod dy hoff gân newydd neu i ymuno â'r sgwrs, dilyna @Miwsig_ neu chwilia am #Miwsig a #DyddMiwsigCymru.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, ewch i'r tudalennau Helo Blod i gael gwybod mwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.