BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dyddiad cau ar gyfer tâl salwch Covid-19

Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer hawliadau a wnaed o dan Gynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol y Coronafeirws. Gall cyflogwyr ddim ond hawlio ad-daliad ar dâl salwch statudol a dalwyd i weithwyr cyflogedig oherwydd Covid-19 a oedd i ffwrdd o'r gwaith ar neu cyn 30 Medi 2021.

Bydd Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol y Coronafeirws yn ad-dalu i gyflogwyr y Tâl Salwch Statudol a dalwyd i weithwyr cyflogedig presennol neu gyn-weithwyr cyflogedig.

Mae'r cynllun hwn ar gyfer cyflogwyr. Gallwch hawlio hyd at 2 wythnos o Dâl Salwch Statudol:

  • os ydych chi eisoes wedi talu tâl salwch eich gweithiwr cyflogedig (defnyddiwch y cyfrifydd SSP i gyfrifo faint i'w dalu)
  • os ydych chi'n hawlio am weithiwr cyflogedig sy'n gymwys i gael tâl salwch oherwydd y coronafeirws
  • os oes gennych chi gynllun cyflogres PAYE a grëwyd ac a ddechreuwyd ar neu cyn 28 Chwefror 2020
  • os oedd gennych chi lai na 250 o weithwyr ar 28 Chwefror 2020 ar draws eich holl gynlluniau cyflogres PAYE

Rhaid i chi gyflwyno neu ddiwygio hawliadau ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Gwirio a allwch hawlio’n ôl y Tâl Salwch Statudol a delir i gyflogeion o ganlyniad i goronafeirws (COVID-19) - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.