BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ehangu Gorwelion gydag Ecwiti Byw

Cynhadledd hanner diwrnod yn dod â ffigurau cyllid a pherchnogion busnes blaenllaw ynghyd i rannu eu profiadau o fuddsoddi ecwiti.

Os ydych chi'n berchennog busnes ar daith i dyfu, busnes technoleg newydd sy'n chwilio am fuddsoddiad, neu os ydych chi'n edrych i brynu neu werthu busnes, bydd y gynhadledd hanner diwrnod hon yn eich helpu i gyflwyno, cynllunio a dod o hyd i'r buddsoddiad cywir sy’n addas ar gyfer eich busnes.

Bydd siaradwyr dan y chwyddwydr, trafodaethau panel, awgrymiadau da, a chyfleoedd i rwydweithio. Manteisiwch ar y cyfle i gael eich ysbrydoli gan rai unigolion gwirioneddol dalentog.

Cynhelir y digwyddiad ar-lein am ddim ar 4 Tachwedd 2021 rhwng 9am a 1.15pm.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i Hafan| Ehangu Gorwelion gydag Ecwiti BYW
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.