O 1 Ionawr 2021, ni fyddwch bellach yn gallu adnewyddu na chofrestru ar gyfer enwau parth .eu:
- os yw’ch sefydliad, busnes neu fenter wedi’i sefydlu yn y DU ond ddim yn yr UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu
- os ydych yn byw y tu allan i’r UE/AAE a ddim yn ddinesydd UE/AAE
Darllenwch hysbysiad diweddaraf y Comisiwn Ewropeaidd ar enwau parth .eu.
Gallwch ddim ond cofrestru neu gadw enwau parth .eu:
- os ydych chi’n ddinesydd UE/AAE, waeth lle rydych chi’n byw
- os nad ydych chi’n ddinesydd UE/AAE ond yn byw yn yr UE/AAE.
- os ydych yn sefydliad, busnes neu fenter a sefydlwyd yn yr UE/AAE
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.