BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Er sylw cyflogwyr: Deddf Absenoldeb Gofalwr – Ydych chi'n Barod?

father and daughter

Daw’r Ddeddf Absenoldeb Gofalwr i rym ar 6 Ebrill 2024, rhaid i bob cyflogwr fod yn barod i gefnogi gofalwyr di-dâl yn eu gweithle.

Ymunwch â Gofalwyr Cymru ar gyfer digwyddiadau ar-lein am ddim llawn gwybodaeth lle byddwn yn trafod y Deddf Absenoldeb Gofalwyr a’I goblygiadau i gyflogwyr. Bydd y digwyddiad hwn yn eich helpu i ddeall eich cyfrifoldebau a sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth Newydd bwysig hon.

Yn ystod y digwyddiadau hyn, byddwn yn ymdrin â phynciau allweddol fel:

  • Trosolwg o'r Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr a'i diben
  • Deall hawliau gweithwyr o dan y Ddeddf hon
  • Archwilio'r effaith ar eich gweithrediadau bob dydd
  • Arferion gorau ar gyfer gweithredu polisïau a gweithdrefnau
  • Mynd i'r afael â heriau posibl a dod o hyd i atebion

Peidiwch â cholli'r cyfle gwerthfawr hwn i gael mewnwelediad ac arweiniad.

Dyddiadau ac amseroedd:

  • 28 Chwefror: 11.30yb – 12.30yp
  • 4 Mawrth: 1.30yp – 2.30yp
  • 8 Mawrth: 10yb – 11yb
  • 14 Mawrth: 9.30yb – 10.30yb
  • 18 Mawrth: 1yp – 2yp
  • 21 Mawrth: 11yb – 12yp

Heb gymorth, gall gofalwyr sy'n gweithio gael trafferth y tu mewn a'r tu allan i'r gweithle. Fodd bynnag, gyda’r cymorth priodol yn ei le, gall gofalwyr sy’n gweithio weithredu’n effeithiol yn y ddau rinwedd ac maent yn elfen hanfodol yn nhirwedd economaidd Cymru.

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle a sicrhau eich bod yn barod ar gyfer y Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr: Attention all employers! The Carer’s Leave Act - Are You Ready? Tickets | Eventbrite


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.