BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

f:Entrepreneur – Gwnewch gais nawr!

Yn galw pob entrepreneur benywaidd anhygoel!

Ydych chi'n entrepreneur benywaidd anhygoel neu ydych chi'n adnabod rhywun sy'n haeddu cydnabyddiaeth?

Bob blwyddyn mae'r ymgyrch yn rhoi sylw i 100 o berchnogion busnesau benywaidd anhygoel er mwyn cydnabod y llanw cynyddol o fenywod sy'n rhedeg busnesau, ond sydd hefyd yn llwyddo i ymdopi â phob math o rolau a chyfrifoldebau sy'n cynorthwyo eu cymheiriaid a'u cymunedau.

Mae pob aelod o'r #ialso100 yn cael ei arddangos ar wefan f:Entrepreneur ac ar draws pob platfform cyfryngau cymdeithasol.

Mae digwyddiadau misol unigryw i'w mynychu a chyfleoedd i gynnal digwyddiadau, siarad ar baneli yn holl ymgyrchoedd Small Business Britain, yn ogystal â chymorth penodol ym maes y wasg a chysylltiadau cyhoeddus. 

Mae ceisiadau ar gyfer f:Entrepreneur #ialso100 2022 yn cau am hanner nos ddydd Iau 30 Medi 2021. 

Does dim angen talu’r un geiniog i wneud cais, dilynwch y ddolen #ialso 100 2022 Signup | f:Entrepreneur (f-entrepreneur.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.