BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gall CThEM helpu tuag at gostau gweithgareddau gwyliau haf i blant

Mae modd defnyddio Gofal Plant Di-dreth – tâl atodol gofal plant i rieni sy'n gweithio – er mwyn helpu i dalu am glybiau gwyliau achrededig, gwarchodwyr plant neu weithgareddau chwaraeon.

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn atgoffa teuluoedd sy'n gweithio y gallant ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth i helpu i dalu am gostau gofal plant dros yr haf.
Mae modd defnyddio Gofal Plant Di-dreth – tâl atodol gofal plant i rieni sy'n gweithio – er mwyn helpu i dalu am glybiau gwyliau achrededig, gwarchodwyr plant neu weithgareddau chwaraeon.

Mae Gofal Plant Di-dreth ar gael i blant hyd at 11 oed, neu 17 oed os oes gan y plentyn anabledd. Ac am bob £8 sy'n cael eu cynilo mewn cyfrif, bydd teuluoedd yn derbyn £2 ychwanegol fel taliad atodol Llywodraeth y DU, wedi'i gapio ar £500 bob 3 mis, neu £1,000 os yw'r plentyn yn anabl.

Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.