Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal hapwiriadau ac arolygiadau ar bob math o fusnesau, ym mhob ardal, er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel i leihau’r risg o COVID.
Yn ystod yr hapwiriadau, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu cyngor ac arweiniad i reoli risg a diogelu gweithwyr, cwsmeriaid ac ymwelwyr. Fodd bynnag, lle nad yw rhai busnesau’n llwyddo i wneud hyn, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gweithredu ar unwaith.
Gall hyn amrywio o ddarparu cyngor penodol, rhoi hysbysiadau gorfodi, ac atal arferion gwaith penodol tan iddynt gael eu gwneud yn ddiogel. Os nad yw busnesau’n cydymffurfio, gallent gael eu herlyn.
Mae gweithio i reoli trosglwyddiad COVID yn golygu bod angen i fusnesau gynnal asesiad risg i ddeall y mesurau y gall fod eu hangen i ddiogelu gweithwyr ac eraill. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am weithio'n ddiogel yn ystod y pandemig.
Mae canllawiau ar gael i fusnesau yng Nghymru ar Llyw.Cymru hefyd.