Mae Geovation, hyb rhwydwaith arloesi agored yr Arolwg Ordnans, wedi lansio her gyda Swyddfa Hydrograffig y DU i ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i fynd i’r afael â llygredd arfordirol, gyda gwobr o hyd at £5,000 i’r enillwyr.
Fel ynys, mae gan Brydain Fawr forlin o bron i 20,000 milltir (gan gynnwys yr ynysoedd). Mae mwyafrif llethol y boblogaeth hefyd yn byw o fewn 100 milltir i’r morlin, felly mae llygredd arfordirol gwasgaredig yn debygol o effeithio ar bawb mewn rhyw ffordd.
Mae ffynonellau llygredd gwasgaredig yn aml yn fach iawn ar eu pen eu hunain, ond gyda’i gilydd gallant fod yn niweidiol dros ben drwy ryddhau llygryddion posibl. Mae llygredd arfordirol gwasgaredig yn cael ei achosi’n aml gan law a sut rydym yn rheoli tir, a gall ddigwydd o ganlyniad uniongyrchol i ffynonellau llygredd amaethyddol, trefol a morol.
Mae Geovation yn gweithio gydag arloeswyr a busnesau newydd drwy ddarparu mynediad iddynt at ddata amser real a chywir. Mae hefyd yn darparu arbenigedd i fynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar bobl a’r blaned ar lefel byd-eang, rhanbarthol a lleol. Gyda’r her hon, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael mynediad at ddata gan yr Arolwg Ordnans, gan gynnwys tir, adeiladau, rhwydweithiau dŵr, cyfeiriadau a Hyb Data’r Arolwg Ordnans, y trosolwg mwyaf cynhwysfawr a chywir o dirwedd Prydain Fawr.
Y dyddiad cau i wneud cais yw 20 Chwefror 2022.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://geovation.uk/diffuse-coastal-pollution-challenge/