BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofyniad i gyflogwyr rannu unrhyw gildwrn â gweithwyr

Bydd pob cildwrn yn cael ei roi i staff dan gynlluniau newydd i weddnewid arferion rhoi cildwrn gan Lywodraeth y DU.

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr lletygarwch – llawer ohonynt yn ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol – yn dibynnu ar arian cildwrn i ategu eu hincwm. Ond dengys ymchwil bod llawer o fusnesau sy’n ychwanegu tâl gwasanaeth dewisol ar filiau cwsmeriaid yn cadw rhan o’r taliadau gwasanaeth hyn, yn hytrach na’u rhoi i’r staff.

Bydd Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr gadw unrhyw gildwrn yn hytrach na’i roi i weithwyr. Bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys:

  • gofyniad i bob cyflogwr roi pob cildwrn i weithwyr heb unrhyw ddidyniadau
  • Cod Ymarfer Statudol yn egluro sut y dylid dosbarthu arian cildwrn i sicrhau tegwch a thryloywder
  • hawliau newydd i weithwyr wneud cais am wybodaeth sy’n ymwneud hanes cildwrn cyflogwyr, gan eu galluogi i gyflwyno hawliad credadwy i dribiwnlys cyflogaeth

O dan y newidiadau, os yw cyflogwyr yn torri’r rheolau gellir mynd â nhw i Dribiwnlys Cyflogaeth, lle gellir gorfodi cyflogwyr i ddigolledu gweithwyr, yn aml ar ben dirwyon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.