BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Goroesi a Ffynnu – cyhoeddi cyllid ar gyfer y Trydydd Sector

Cyn hir, bydd Tîm Buddsoddi Cymdeithasol Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cyflawni trydydd cam Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru.

Mae'r gronfa yn barhad o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol gydol COVID-19. I ddechrau, bydd cam newydd y Gronfa Gwydnwch yn cynnig dros £2 filiwn o gyllid grant ychwanegol, gan ddarparu cyllid refeniw i raddau helaeth.

Bydd dwy elfen i gam newydd cronfa gwydnwch y trydydd sector yma yng Nghymru:

  • ‘Goroesi' – sy’n cydnabod y gallai rhywfaint o effaith COVID-19 fod wedi taro'n hwyrach, a
  • ‘Ffynnu' – ar gyfer mudiadau sydd am ddatblygu a gwella eu gallu i oroesi wrth adfer o effaith y pandemig.

Mae manylion y cylch ariannu nesaf yn dal i gael eu cwblhau, a bydd cyhoeddiad cyn hir yn rhoi gwybod pryd fydd y broses ymgeisio ar agor. Os hoffech gofrestru eich diddordeb a chael eich hysbysu pan fydd y gronfa'n agor, e-bostiwch sic@wcva.cymru.

Rhagor o wybodaeth ar wefan CGGC.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.