BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant Coetiroedd Bach

Forest and bluebells

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllid (trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol) i greu Coetiroedd Bach o faint cwrt tennis i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd a helpu pobl i ddeall natur, ac ymgysylltu â hi o’r newydd.

Bydd trydedd rownd y Grant Coetiroedd Bach yn agor ym mis Chwefror ac yn cau ar 8 Mai 2024.

Ai dyma’r cynllun cywir i chi?

  • Ydych chi’n berchen ar dir neu’n rheoli tir yng Nghymru, neu wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan y tirfeddiannwr i wneud cais i’r cynllun hwn?
  • Ydych chi’n bwriadu creu Coetir Bach/Tiny Forest sy’n glynu at egwyddorion Earthwatch?
  • Ydych chi’n gallu cynnwys y gymuned â chreu a rheoli’ch safle coetir?
  • Oes angen grant o hyd at £40,000 arnoch ar gyfer un safle, neu hyd at £250,000 ar gyfer safleoedd lluosog?

Os ateboch chi ‘ydw’/‘oes’ i’r cwestiynau hyn, yna mae cynllun Coetiroedd Bach/Tiny Forests yng Nghymru yn berthnasol i chi.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Coetiroedd Bach yng Nghymru | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (heritagefund.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.