BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Ailddychmygu (Reimagine)

Nod y grantiau prosiect Reimagine newydd yw helpu sefydliadau fel amgueddfeydd, orielau, tai hanesyddol, archifau a llyfrgelloedd cyhoeddus, asiantaethau a gwyliau y DU wrth iddynt ailddychmygu eu gweithgareddau wedi’r pandemig. Maent yn cynnig cymorth i feithrin arbenigedd, gallu a chysylltiadau o fewn a thu hwnt i’r sector.

Nid bwriad y grantiau newydd hyn yw darparu cyllid ‘brys’ neu ‘adfer’.

Fodd bynnag, mae’r cynllun wedi’i lunio i fodoli yn y presennol ac i fynd i’r afael â’r  , amgylchedd anodd sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ogystal â pharatoi sefydliadau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r prosiect yn cynnig grantiau o rhwng £5,000 a £50,000.

Y nod yw cyllido prosiectau sy’n bodloni’r nodau ac yn mynd i’r afael ag o leiaf un o’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer cymorth:

  • casgliadau
  • digidol
  • ymgysylltu
  • gweithlu

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Awst 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Art Fund
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.