BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau gwerth hyd at £15,000 ar gael i Entrepreneuriaid Cymdeithasol

Mae grantiau gwerth hyd at £15,000 ynghyd â chymorth busnes ar gael i entrepreneuriaid cymdeithasol sy’n awyddus i gychwyn neu ddatblygu menter gymdeithasol sydd eisoes wedi’i sefydlu. Mae’r cyllid hwn ar gael trwy UnLtd.

Mae UnLtd wedi ymrwymo i ddarparu 50% o’i ddyfarniadau i entrepreneuriaid cymdeithasol Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a/neu entrepreneuriaid cymdeithasol anabl. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn byw yn y DU ac yn awyddus i ddiwallu angen cymdeithasol clir.

Y dyddiad cau ar gyfer y cylch cyllido hwn yw 30 Medi 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan UnLtd.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.