Mae grantiau gwerth hyd at £5,000 ar gael i helpu i ddatblygu menywod, unigolion trawsryweddol ac unigolion anneuaidd rhagorol sy’n ysgrifennu ac yn cyfansoddi caneuon o bob math. Mae’r grantiau ar gael i unigolion perthnasol o bob cefndir a chyfnod gyrfa.
Mae’r cyllid ar gael i gefnogi teithio, recordio, hyrwyddo a marchnata, prosiectau cymunedol yn ymwneud â chyfansoddwyr cerddoriaeth o ansawdd uchel, cyfnodau preswyl cyfansoddi cerddoriaeth a pherfformiadau byw o gerddoriaeth newydd yn y DU.
Mae’r cyllid ar gael trwy’r Gymdeithas Hawliau Perfformio (PRS) ar gyfer Rhaglen Grantiau Women Make Music y Sefydliad Cerddoriaeth, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Hydref 2021.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad y Gymdeithas Hawliau Perfformio.