BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Ymchwil ac Arloesi Trafnidiaeth 2023

trucks on a road

Mae Grantiau Ymchwil ac Arloesi Trafnidiaeth (TRIG) yn rhoi cyllid cam cynnar ar gyfer arloesiadau ym maes gwyddoniaeth, peirianneg, neu dechnoleg a ddarperir gan bartner cyflawni prosiect yr Adran Drafnidiaeth, sef Connected Places Catapult.

Mae TRIG ar gael i unrhyw sefydliad yn y Deyrnas Unedig i gefnogi prosiectau prawf cysyniad a allai arwain at ddatblygu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau ymchwil trafnidiaeth newydd llwyddiannus. Cynlluniwyd TRIG i gefnogi sefydliadau trwy ddarparu grantiau hygyrch, cynfyfyrwyr, a chymorth cofleidiol gan Connected Places Catapult i ddod ag arloesiadau’n agosach i’r farchnad.

Mae’r rhaglen hefyd yn darparu lle cydweithredol ar gyfer arloeswyr, gan gynnwys academyddion, busnesau bach a chanolig, a busnesau mawr, er mwyn iddynt weithio gyda thimau polisi’r Adran Drafnidiaeth ar wireddu nodau a rennir.

Mae’r Heriau’n dyfarnu grant o hyd at £45,000 i bob enillydd:

  • Her 1: Galwad agored
  • Her 2: Datgarboneiddio Trafnidiaeth Leol
  • Her 3: Datgarboneiddio Meysydd Awyr
  • Her 4: Dyfodol Cludo Llwythi
  • Her 5: Cysylltedd, Deallusrwydd Artiffisial a Gefeilliaid Digidol
  • Her 6: Datgarboneiddio Morol

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Tachwedd 2023.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Transport Research and Innovation Grants 2023 - Connected Places Catapult


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.