BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Guardians of Grub: Becoming a Champion 2021-22

Mae cwrs e-ddysgu newydd Guardians of Grub, ‘Becoming a Champion’, wedi’i ddatblygu gan weithwyr diwydiant proffesiynol, a bydd yn mynd â’ch sgiliau lleihau gwastraff bwyd i’r lefel nesaf. Dyma gyfle gwych i uwchsgilio a gwneud gwahaniaeth positif i chi, eich pobl, eich elw a’r blaned.

Dyma’ch cyfle i ymuno â chymuned sy’n tyfu o weithwyr proffesiynol y Diwydiant Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd sydd wedi dod i gael eu hadnabod fel Hyrwyddwyr, ac sy’n arwain yr ymgyrch i arbed arian i’w busnesau ac achub y blaned.

Mae’r cwrs wedi’i lunio’n arbennig ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n brin o amser – gan roi mynediad cyflym i chi at yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithredu i leihau bwyd gwastraff. Ac mae’r cyfan am ddim. Mae’n ffordd heb ei hail o roi hwb i’ch busnes.

Ymunwch â’r gweminar Webinar Registration - Zoom, a gynhelir ar 18 Hydref 2021 o 11am i weld sut gallwch ymuno â’r nifer cynyddol o ddefnyddwyr sydd eisoes yn gweld manteision y rhaglen.

Am ragor o wybodaeth am ddod yn Hyrwyddwr, ewch i Become a Champion • Guardians of Grub neu e-bostiwch guardiansofgrub@wrap.org.uk i gofrestru’ch diddordeb.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.