BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwaharddiad ar fylbiau golau halogen o fis Medi 2021

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i roi diwedd ar werthu bylbiau golau halogen o fis Medi 2021, fel rhan o ymdrechion ehangach y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd deddfwriaeth a gyflwynir hefyd yn cynnwys tynnu fflworoleuadau oddi ar y silffoedd o fis Medi 2023.

Bydd halogenau HL R7 yn dal i fod ar gael ar y farchnad, a rhai fflworoleuadau fel T5s.

Bydd eithriadau ar waith ar gyfer lampau sydd wedi’u cynllunio a’u marchnata’n benodol ar gyfer goleuo golygfeydd mewn stiwdios ffilmiau, stiwdios teledu, a stiwdios ffotograffig, neu at ddefnydd goleuo llwyfannau mewn theatrau neu ddigwyddiadau adloniant eraill.

Am ragor o wybodaeth, ewch GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.