BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwasanaeth Datgan Tollau i droi’n blatfform tollau unigol y DU

Bydd CThEM yn cau ei system Trafod Tollau Nwyddau a gaiff eu Mewnforio a'u Hallforio (CHIEF) ar 31 Mawrth 2023. O’r dyddiad hwn, bydd angen i bob busnes ddatgan nwyddau drwy’r Gwasanaeth Datgan Tollau (CDS).

Ar hyn o bryd, defnyddir CDC ar gyfer datganiadau Gogledd Iwerddon a Gweddill y Byd.

Cyn cau’n llwyr ar 31 Mawrth 2023, bydd gwasanaethau ar CHIEF yn cael eu tynnu yn ôl mewn dau gam:

  • 30 Medi 2022: datganiadau mewnforio yn dod i ben ar CHIEF
  • 31 Mawrth 2023: datganiadau allforio yn dod i ben ar CHIEF/ System Allforion Cenedlaethol (NES)

Mae rhagor o wybodaeth ar GOV.UK i helpu busnesau ac asiantiaid i baratoi ar gyfer CDS. Hefyd, mae nifer o wasanaethau cymorth byw i gwsmeriaid ar gael. 


 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.