BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwasanaeth rhybudd cynnar yr NCSC

Gwasanaeth rhad ac am ddim gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yw 'Early Warning' sydd wedi'i gynllunio i roi gwybod i'ch sefydliad am ymosodiadau seiber posibl ar eich rhwydwaith, cyn gynted â phosibl. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio amryw o ffrydiau gwybodaeth gan yr NCSC, ffynonellau cyhoeddus, masnachol a chaeedig y gellir ymddiried ynddynt, sy'n cynnwys nifer o ffrydiau breintiedig nad ydynt ar gael mewn mannau eraill.

Mae ‘Early Warning’ yn helpu sefydliadau i ymchwilio i ymosodiadau seiber ar eu rhwydwaith drwy roi gwybod iddynt am weithgarwch maleisus sydd wedi'i ganfod mewn ffrydiau gwybodaeth.

Mae ‘Early Warning’ yn agored i bob sefydliad yn y DU sydd â chyfeiriad IP sefydlog neu enw parth.

Rhagor o wybodaeth yn The NCSC's Early Warning service - NCSC.GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.