Gall arloesi a phreifatrwydd weithio law yn llaw ac yn wir, fe ddylent wneud hynny. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am weld busnesau arloesol yn ffynnu a thyfu, ac am gefnogi busnesau i ddod â chynhyrchion sy’n parchu preifatrwydd ar y farchnad, tra’n diogelu data personol y cyhoedd.
Os ydych chi’n sefydliad technoleg ariannol bach sydd newydd ddechrau neu’n sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus sy’n defnyddio data personol i wella canlyniadau iechyd, os ydych chi’n cynnal prosiectau newydd ac arloesol sy’n defnyddio data personol, gall eu gwasanaethau arloesi eich helpu i gynnwys diogelwch data yn eich cynhyrchion o’r dechrau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i ICO Innovation Services | ICO