Mewn digwyddiad lansio yn y Gogledd, croesawyd canllawiau sydd â'r nod o greu diwylliant gwrth-hiliol mewn lleoliadau gofal plant yng Nghymru gan Weinidog y Blynyddoedd Cynnar, Jayne Bryant.
Mae'r pecyn cymorth yn rhoi cyngor clir ac ymarferol i ddarparwyr gofal plant ar amrywiaeth o bynciau gwrth-hiliol. Bydd y pecyn ar gael i'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae yng Nghymru.
Fe'i datblygwyd gan gonsortiwm o bum partner gofal plant a chwarae – Cwlwm - a'r Sefydliad Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL). Roedd lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae, Llywodraeth Cymru, mentoriaid cymunedol ac amrywiaeth o unigolion â phrofiad bywyd hefyd yn rhan o'i ddatblygiad.
Bydd yn rhoi cyngor i leoliadau a staff am y camau y gallant eu cymryd i sicrhau bod yr amgylchedd y maent yn ei greu a'r ddarpariaeth y maent yn ei chynnig yn wrth-hiliol.
Mae hefyd yn cefnogi lleoliadau i feithrin perthynas â rhieni a'r cymunedau lleol i hyrwyddo dealltwriaeth am bobl o wahanol gefndiroedd.
Mae'r pecyn cymorth yn atgyfnerthu uchelgais cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sy'n anelu at sicrhau bod pawb, waeth beth yw eu cefndir, yn gallu manteisio ar brofiadau gofal plant a phrofiadau addysgol o ansawdd uchel, sy'n ymatebol yn ddiwylliannol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar yn lansio canllawiau gwrth-hiliol ar gyfer lleoliadau gofal plant | LLYW.CYMRU