BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Busnes Cyfrifol yng Nghymru: diben a gwerthoedd

Ymunwch â Busnes yn y Gymuned (BITC) Cymru am weminar ryngweithiol yn ymwneud â gwreiddio diben a gwerthoedd yn eich sefydliad, sy’n cael ei gynnal ar 13 Gorffennaf 2021 rhwng 11am a 12pm.

Mae’r weminar hon yn gyfle i glywed gan rai o aelodau BITC am y camau ymarferol maen nhw wedi’u cymryd ar eu teithiau busnes cyfrifol, gan gynnwys y llwyddiannau a’r heriau a ddaeth i’w rhan.

Dyma’r gyntaf mewn cyfres o weminarau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar brofiadau ac anghenion busnesau yng Nghymru. Mae cofrestru’n rhad ac am ddim i aelodau BITC a’r rhai nad ydynt yn aelodau. Bydd y gweminarau’n bwrw golwg gyfannol ar fusnes cyfrifol, gan gynnig cyngor ar sut mae rhoi creu cymunedau iach ac amgylchedd iach wrth wraidd eich strategaeth i sicrhau gwerth ariannol hirdymor.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i wefan BITC.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.