BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Croeso Cymru I’r Diwydiant: Dathlu 10 Mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru

I ddathlu 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru, mae Croeso Cymru mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Llwybr Arfordir Cymru, yn cynnal sesiwn ar-lein ar 3 Mawrth 2022 o 11am tan 12pm ar Microsoft Teams.

Bydd ein siaradwyr gwadd yn trafod rhaglen o weithgarwch cynaliadwy ar gyfer codi ymwybyddiaeth am fuddiannau Llwybr Arfordir Cymru, cynyddu’r defnydd ohono ac ysbrydoli ymwelwyr i’w fwynhau a’i werthfawrogi. Cewch glywed hefyd am eu cynlluniau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol gydol 2022, felly da chi, manteisiwch ar y cyfle i weld sut gall eich busnes fod yn rhan o’r dathliadau.

Bydd cyfle i fusnesau ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi byr. 

I ymuno â ni, archebwch eich lle erbyn 3pm ar 2 Mawrth 2022. Y cyntaf i’r felin fydd hi, a chaiff dolen ymuno ei hanfon at bawb fydd yn cymryd rhan ar fore’r digwyddiad.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle ewch i'r Digwyddiadur Busnes Cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.