BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminarau: Cofleidiwch y newidiadau deddfwriaethol sydd ar y gorwel yng Nghymru

recycling bins

Cofleidiwch y newidiadau deddfwriaethol sydd ar y gorwel yng Nghymru a fydd yn mandadu i bob gweithle, yn cynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus, a’r trydydd sector, wahanu deunyddiau ailgylchadwy oddi wrth wastraff cyffredinol.

Mae’r gweminarau hyn wedi’u cynllunio i gynnig cyflwyniad cynhwysfawr i’r rheoliadau gwastraff, ynghyd ag archwiliad manwl o’r gofynion ar bob sector i baratoi am y gyfraith newydd a ddaw i rym ym mis Ebrill 2024:

I gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi’r arolwg, dewisiwch y ddolen ganlynol: Ailgylchu yn y Gweithle - Gweminar (wrapcymru.org.uk)

Recordiadau Gweminarau: Methu bod ar gael ar gyfer sesiwn fyw? Na phoener! Bydd recordiadau o’r holl weminarau ar gael ar wefan y Busnes o Ailgylchu yn gynnar ym mis Chwefror.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu. Mae canllawiau a chymorth ar gael yn: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.