Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed ac i bob ymarferydd addysg.
O fis Medi ymlaen, bydd pobl ifanc 18 i 25 oed yn gallu cofrestru'n rhad ac am ddim ar gyrsiau gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau'n cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd mewn ystafelloedd dosbarth rhithwir, gan ddefnyddio Zoom neu Teams, gyda chyrsiau wyneb yn wyneb ar gael hefyd.
Bydd dysgwyr yn gallu cael mynediad at gyrsiau wedi'u teilwra i'w gallu eu hunain yn y Gymraeg, o gyrsiau blasu a chyrsiau mynediad hyd at lefelau uwch a hyfedredd. Ni ofynnir i bobl ifanc 18 i 25 oed dalu wrth gofrestru.
Bydd adnodd e-ddysgu newydd hefyd yn cael ei dreialu ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol, coleg neu gynllun prentisiaeth, i wella eu sgiliau Cymraeg llafar. Bydd yr adnodd yn cael ei ddarparu gan Say Something in Welsh a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol o fis Medi ymlaen. Bydd yn ategu pecyn ehangach o hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed, p'un a ydynt mewn addysg ai peidio.
Am ragor o wybodaeth ewch i Gwersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 i 25 oed ac i’r holl staff addysgu | LLYW.CYMRU