BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

GwerthwchiGymru – sut y gall helpu eich busnes

Mae GwerthwchiGymru  yn wasanaeth arlein sy’n helpu busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau a dod o hyd i gyfleoedd i sicrhau contractau gyda’r sector cyhoeddus drwy Gymru.

Bob blwyddyn, caiff gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru. Cynigir y contractau hyn gan ystod eang o gyrff sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus yn cynnwys:

  • Llywodraeth leol
  • Awdurdodau lleol
  • Ymddiriedolaethau GIG
  • Colegau a phrifysgolion

Os mai busnes bach neu ganolig sydd gennych chi (yn cyflogi hyd at 250), sydd eisiau gwella ei siawns o ennill contractau sector cyhoeddus a phreifat, mae’n bosib y gall Busnes Cymru - Tendro eich helpu chi.

Hefyd mae’r adran newyddion a digwyddiadau yn rhoi gwybodaeth i fusnesau Cymru am dendro ar gyfer y sector cyhoeddus gyda gweithdai a hysbysebir digwyddiadau cwrdd â’r prynwr ar Ddigwyddiadur Busnes Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch i GwerthwchiGymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.