Gall darparwyr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, cylchoedd meithrin, crèches a chlybiau y tu allan i’r ysgol wneud cais am hyd at £5,000 i fynd i’r afael ag incwm a gollwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020.
Rhaid i chi fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Ni allwch gael y grant os ydych wedi gwneud cais am gyllid i’r cynlluniau isod, neu os ydych wedi cael cyllid ganddynt:
- Grantiau ardrethi busnes sy’n cael eu gweinyddu gan eich awdurdod lleol
- y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF)
- Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS)
- Cymorth Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau Newydd
- Cronfa Gwytnwch Trydydd Sector Cymru (WCVA)
- Cynllun grant y Mudiad Meithrin
Gallwch wneud cais am y grant hyd yn oed os ydych wedi cael cyllid o dan y cynlluniau canlynol:
- y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS)
- y Cynnig Gofal Plant yng Nghymru
- Cynllun Cymorth Gofal Plant yn sgil y Coronafeirws
- Cyllid darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen
- Dechrau’n Deg
Gallwch wneud cais o 24 Awst 2020 i 31 Hydref 2020.
Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl 31 Hydref 2020 yn cael eu hystyried.
Os ydych yn gymwys, cewch eich cyfeirio at wefan eich awdurdod lleol a fydd yn dweud wrthych sut i wneud cais yn eich ardal chi.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.