BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Caerdydd 2021

Cynhelir seithfed Gwobrau Busnes Caerdydd ar 26 Tachwedd 2021 gan barhau i ddathlu’r busnesau gorau yng Nghaerdydd a’r potensial aruthrol sydd ym mhrifddinas Cymru.

Eleni, mae 17 categori a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu hystyried ar gyfer gwobr gyffredinol Gwobrau Busnes Caerdydd y Flwyddyn 2021.

I fod yn gymwys i gymryd rhan, mae’n rhaid i fusnesau fod:

  • Wedi dechrau masnachu ar neu cyn 1 Ebrill 2020.
  • Wedi’u lleoli yn ardal awdurdod lleol Cyngor Sir Caerdydd.
  • Yn talu trethi busnes i Gyngor Sir Caerdydd.

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 10 Medi 2021 am 5pm. 

Gellir cyflwyno ceisiadau nawr drwy wefan Gwobrau Busnes Caerdydd:  https://cardiffbusinessawards.com/ 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.