BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2022

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2022, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 13 Mai 2022. Bydd y gwobrau cenedlaethol yn darparu llwyfan i ddathlu cynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru.

Byddant yn amlygu amrywiaeth y sector, ac yn tynnu sylw at fusnesau llwyddiannus sy'n tyfu, yn creu cyflogaeth ac yn llwyddo i ysbrydoli eraill.

Dyma'r categorïau eleni:

  • Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Entrepreneur y Flwyddyn
  • Allforiwr y Flwyddyn
  • Prentis y Flwyddyn
  • Gwobr Arloesi
  • Gwobr Gwerthoedd Cynaliadwy
  • Seren Ddisglair y Flwyddyn
  • Cwmni Uwchraddio'r Flwyddyn
  • Gwobr Gymunedol Leol
  • Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn
  • Cynhyrchydd Diodydd y Flwyddyn
  • Busnes Artisan y Flwyddyn
  • Gwobr Cydnerthedd Covid-19

Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 8 Ebrill 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i https://foodanddrinkawards.wales/


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.