BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Cyfarwyddwyr y flwyddyn 2021

Mae Gwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IOD) bellach ar agor i geisiadau. Maen nhw’n dathlu talent, llwyddiant a chyflawniadau arweinwyr ac yn tynnu sylw at ragoriaeth fusnes a’r cyfraniadau eithriadol y gall cyfarwyddwyr eu gwneud at ffyniant economaidd a chymdeithasol yn y gymuned.

Beth bynnag yw’ch sector neu sefydliad – a ph’un ai’ch bod yn gyfarwyddwr ar gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf, busnes newydd arloesol, busnes teuluol, busnes bach a chanolig, neu’r Trydydd Sector – hoffai’r IOD glywed gennych.

Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i’r gymuned fusnes gydnabod rhagoriaeth a phroffesiynoldeb yma yng Nghymru.

Dyma’r categorïau eleni:

  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Busnes Bach-Canolig (Hyd at £15m)
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Busnes Teuluol
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Busnes newydd
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Arloesi
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Ifanc
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant 
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Cyfrifoldeb Corfforaethol Cymdeithasol
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Anweithredol
  • Cyfarwyddwr y Flwyddyn – Datblygu Sgiliau

Anfonwch geisiadau erbyn dydd Gwener 22 Hydref 2021.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Sefydliad y Cyfarwyddwyr.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.