BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Ffederasiwn Bwyd a Diod 2022

Mae Gwobrau'r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ar gyfer arloesi, cystadleurwydd a thalent yn y diwydiant bwyd a diod.

Pwy sy’n cael ymgeisio?

  • Gweithgynhyrchwyr bwyd a diod
  • Manwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, lletygarwch
  • Sectorau sy'n gweithio gyda'r gadwyn cyflenwi bwyd a diod gan gynnwys ymchwilwyr, dosbarthwyr, iechyd, awdurdodau lleol a darparwyr addysg

Cymerwch gip ar gategorïau'r gwobrau a gwnewch gais am ddim cyn 28 Chwefror 2022, am gyfle i ennill - mae croeso i chi roi cynnig ar faint bynnag o gategorïau ag yr hoffech chi, ac enwebu sawl prosiect/cydweithiwr.

Am ragor o wybodaeth ewch i  https://www.fdf.org.uk/fdf/events-and-meetings/fdf-awards/ 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.