Gellir enwebu nawr ar gyfer y gwobrau Free From Christmas (FFFAs) cyntaf. Maent yn esblygiad hirddisgwyliedig o’r Ffas, sydd â’r nod o gydnabod a dathlu cynhyrchion tymhorol.
I lawer, y Nadolig yw un o ddathliadau mwyaf y flwyddyn gyda dewisiadau tymhorol yn dod yn fwyfwy pwysig i’r defnyddiwr alergaidd. O ystyried graddfa’r arloesi dros y blynyddoedd diwethaf, a’r dyhead gan gynhyrchwyr, cyflenwyr a manwerthwyr, rydym yn teimlo mai nawr yw’r amser i gydnabod a dathlu Free From Christmas drwy wobrau arbennig
Bydd y gwobrau’n cynnig cyfres o gategorïau unigol sy’n berthnasol i gynhyrchion tymhorol yn unig, sydd ar gael ar gyfer Nadolig 2021.
- Rhoi yn anrheg
- Bwyd Parti
- Diodydd - gydag a heb alcohol
- Cinio Nadolig
- Amser Te – Peis a Chacennau
- Ar ôl Cinio – Pwdinau a Chyffeithiau
- Cynnyrch Bwyd Nadolig y Flwyddyn
- Cynnyrch Diod Nadolig y Flwyddyn
- Brand Nadolig Annibynnol Gorau'r Flwyddyn
- Detholiad Nadolig y Flwyddyn
Bydd enwebu ar gyfer gwobrau Free From Christmas 2021 yn cau am hanner nos ddydd Sul 18 Gorffennaf 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Free From Food Awards.