Mae’r Gwobrau Gweithgarwch Elusennol gan Fusnesau yn darparu’r llwyfan perffaith ar gyfer myfyrio ar eich ymdrechion, rhannu arferion gorau, a gwobrwyo eich cyflawniadau o fewn y gymuned.
Mae’r Gwobrau’n cydnabod y cyfraniad rhagorol i achosion da a wneir gan fusnesau yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae’r gwobrau’n cydnabod y rôl y mae unigolion, timau a chwmnïau cyfan yn ei chwarae o ran cefnogi gweithgarwch elusennol, yn lleol ac yn rhyngwladol, ac maent hefyd yn helpu i addysgu’r gymuned fusnes ehangach am y ffyrdd gorau o gefnogi achosion da.
Mae elusennau’n gallu cofrestru ar ran eu partneriaid corfforaethol, a bydd ceisiadau ar y cyd gan gwmnïau a’u sefydliadau corfforaethol hefyd yn cael eu derbyn am waith gyda phartneriaid elusennol.
Mae’r gwobrau’n agored i gwmnïau o bob maint ac ar draws pob diwydiant.
Y dyddiad cau cynnar yw 9 Ionawr 2025 – felly cofrestrwch nawr er mwyn arbed arian!
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Business Charity Awards.
Ewch i dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i ddarganfod sut mae bod yn fusnes cyfrifol yn llesol i’r bobl a’r lleoedd sydd o’ch cwmpas, ac yn cael effaith gadarnhaol ar eich busnes.