BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Gwnaed yng Nghymru 2023

Os ydych chi'n cynhyrchu, dylunio neu'n datblygu cynnyrch yng Nghymru, beth am roi cynnig ar Wobrau Gwnaed yng Nghymru 2023. Mae gwobrau unigryw Insider yn dathlu'r cynhyrchion, yr arloesiadau a'r syniadau gwych gan gwmnïau o bob maint ledled Cymru.

Mae'n gyfnod cyffrous a heriol i weithgynhyrchwyr yng Nghymru. Mae llawer wedi arloesi a chwilio am farchnadoedd newydd i gynyddu gwerthiant. Mae rhai wedi newid eu ffordd o weithio ac wedi rhoi sgiliau ffres i staff hybu cynhyrchu. Ac mae mwy fyth yn ymgorffori nodau cymdeithasol ac amgylcheddol yn y ffordd maen nhw'n gweithio.

Bydd Gwobrau Gwnaed yng Nghymru eleni yn cydnabod yr holl gyflawniadau hyn a mwy ar draws ystod o gategorïau sy'n cydnabod amrywiaeth diwydiant gweithgynhyrchu Cymru.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 19 Hydref 2023 a bydd yn gyfle gwych i wneuthurwyr, dylunwyr a datblygwyr cynnyrch ddod at ei gilydd, cyfnewid syniadau a gwneud cysylltiadau newydd.

Bydd mwy o wybodaeth ar sut i roi cynnig ar y gwobrau i ddilyn, maes o law. Parhewch i wirio’r wefan Insider Made in Wales Awards 2023 (insidermedia.com)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.