BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau The Small Awards 2025

business people working together on a laptop

Mae'r gwobrau The Small Awards yn dathlu busnesau bach gorau'r DU ledled y DU, o arwyr gwasanaeth a Chwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs) i arwyr Sero Net, arloeswyr digidol, busnesau teuluol, busnesau newydd arloesol a hyrwyddwyr y stryd fawr. 

Dyma'r categorïau: 

  • High Street Hero – busnes stryd fawr gorau
  • Bricks and Clicks Award – y busnes bach aml-sianel gorau
  • Legacy Award – y busnes teuluol gorau
  • Supply Chain Champion – y busnes BusnesiFusnes gorau
  • New Kid On The Block – y busnes newydd (llai na 18 mis) gorau
  • Digital Star – busnes digidol yn unig gorau
  • Heart Of Gold – y busnes sy'n cyfrannu fwyaf at ei gymuned
  • At Your Service – y busnes gwasanaeth bach gorau
  • Sole to Sole – y perchennog busnes bach hunangyflogedig gorau
  • Mission Possible – y busnes menter gymdeithasol gorau
  • Net Hero – y busnes sy'n dangos ymrwymiad eithriadol i gynaliadwyedd amgylcheddol
  • Small Business of the Year Award – y busnes bach gorau’n gyffredinol

Bydd y ceisiadau'n cau am hanner nos ar 28 Chwefror 2025.

Bydd beirniadu'n seiliedig ar nifer o feini prawf sy'n berthnasol i'r dyfarniad penodol, tra hefyd yn chwilio am berfformiad cryf fel busnes parhaus. Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o ymgysylltiad cymunedol cryf gan fusnesau bach. Bydd y gwaith beirniadu’n cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill 2025.

Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i seremoni’r gwobrau The Small Awards, cinio tei du, i glywed holl enillwyr y Wobr yn cael eu cyhoeddi'n fyw.

Peidiwch â cholli allan, rhowch eich cais i mewn nawr – mae’r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim! 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: The Small Awards


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.